Covenant Protestant Reformed Church
Bookmark and Share

Credo Sant Athanasius

 
Pwy bynnag a fynno fod yn gadwedig : o flaen dim rhaid iddo gynnal y Ffydd Gatholig.
Yr hon Ffydd, oni’s ceidw pob dyn yn gyfan ac yn ddihalog : diammeu y collir ef yn dragywydd.
A’r Ffydd Gatholig yw hon : Bod i ni addoli un Duw yn Drindod, a’r Drindod yn Undod.
Nid cymmysgu o honom y Personnau : na gwahanu ’r Sylwedd.
Canys un Person sydd i’r Tad, arall i’r Mab : ac arall i’r Yspryd Glân.
Eithr Duwdod y Tad, y Mab, Yspryd Glân, sydd unrhyw : Gogoniant gogyfuwch, Mawrhydi gogyd-tragywyddol.
Unrhyw yw ’r Tad, unrhyw yw ’r Mab: unrhyw yw ’r Yspryd Glân.
Digrëedig Dad, digrëedig Fab : digrëedig Yspryd Glân.
Anfesuredig Dad, anfesuredig Fab : anfesuredig Yspryd Glân.
Tragywyddol Dad, tragywyddol Fab : tragywyddol Yspryd Glân.
Ac etto nid ydynt dri thragywydolion : ond un tragywyddol.
Ac fel nad ynt dri anfesuredigion, na thri digrëedigion ond un digrëedig, ac un anfesuredig.
Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw ’r Tad, Holl-alluog yw ’r Mab : Holl-alluog yw ’r Yspryd Glân.
Ac etto nid ynt dri Holl-alluogion : ond un Holl-alluog.
Felly y Tad sy Dduw, y Mab sy Dduw : a’r Yspryd Glân sy Dduw.
Ac etto nid ynt dri Duwiau : ond un Duw.
Felly y Tad sydd Arglwytdd, y Mab sydd Arglwydd : a’r Yspryd Glân sydd Arglwydd;
Ac etto nid ynt dri Arglwyddi namyn un Arglwydd.
Canys fel y’n cymhellir trwy y Cristionogaidd wirionedd : i gyfaddef bod pob Person o hono ei hun yn Dduw ac yn Arglwydd;
Felly y’n gwaherddir trwy’r Gatholig Grefydd : i ddywedyd, hod tri Duwiau, neu dri Arglwyddi.
Y Tad ni wnaethpwyd gan neb : ni’s crëwyd, ac ni’s cenhedlwyd. 
Y Mab sydd o’r Tad yn unig : heb ei wneuthur, na’i grëu; eithr wedi ei genhedlu.
Yr Yspryd Glân sydd o’r Tad a’r Mab : heb ei wneuthur, na’i grëu, na’i genhedlu; eithr yn deilliaw.
Wrth hynny, un Tad y sydd, nid tri Thad; un Mab, nid tri Mab : un Yspryd Glân, nid tri o Ysprydion Glân.
Ac yn y Drindod hon, nid oes un cynt, neu gwedi eu gilydd : nid oes un mwy na llai nâ’u gilydd;
Eithr yr holl dri Phersonau ydynt ogyd-tragywyddol : a gogyfuwch.
Ac felly ym mhob peth, fel y dywedwyd uchod : yr Undod yn y Drindod, a’r Drindod yn yr Undod sydd i’w haddoli.
Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gadwedig : synied felly o’r Drindod.
Y mae hefyd yn anghenraid, er mwyn tragywyddol iachawdwriaeth : gredu o ddyn yn ffyddlon am gnawdodiaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Canys yr iawn ffydd yw, credu a chyffesu o honom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist, Fab Duw, yn Dduw ac yn Ddyn; 
Duw, o Sylwedd y Tad, wedi ei genhedlu cyn yr oesoedd : a Dyn, o Sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd;
Perffaith Dduw, a pherffaith Ddyn : o enaid rhesymmol, a dynol gnawd yn hanfod; 
Gogyfuwch a’r Tad, oblegid ei Dduwdod : a llai nâ’r Tad, oblegid ei Ddyndod.
Yr hwn er ei fod yn Dduw ac yn Ddyn : er hynny nid yw efe ddau, ond un Crist. 
Un; nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd : ond gan gymmeryd y Dyndod at Dduw; 
Un i gyd oll; nid gan gymmysgu ’r Sylwedd : ond drwy undod Person.
Canys fel y mae yr enaid rhesymmol a’r cnawd yn un dyn : felly Duw a Dyn sydd un Crist:
Yr hwn a ddïoddefodd er ein hiachawdwriaeth : a ddisgynodd i uffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw. 
Esgynodd i’r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw ’r Tad, Duw Holl-alluog : oddi yno y daw i farnu byw a meirw. 
Ac ar ei ddyfodiad y cyfyd pob dyn yn eu cyrph eu hunain : ac a roddant gyfrif arn eu gweithredoedd prïod. 
A’r rhai a wnaethant dda, a ant i’r bywyd tragywyddol : a’r rhai a wnaethant ddrwg, i’r tân tragywyddol.
Hon yw y Ffydd Gatholig: yr hon pwy bynnag a’r ni’s cretto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedig.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 
(Click here for some books in Welsh)