Covenant Protestant Reformed Church
Bookmark and Share

Credo Nicea

 

Credwn yn un Duw,

Y Tad hollalluog,

gwneuthurwr nef a daear,

a phob peth gweledig ac anweledig.

Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist,

unig Fab Duw,

a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd,

Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,

gwir Dduw o wir Dduw,

wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,

yn un hanfod â'r Tad,

a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:

yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth a ddisgynnodd o'r nefoedd,

ac a wnaed yn gnawd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn,

ac a wnaethpwyd yn ddyn,

ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.

Dioddefodd angau ac fe'i claddwyd.

Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,

ac esgynnodd i'r nef,

ac y mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad.

A daw drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw:

ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.

Credwn yn yr Ysbryd Glân,

yr Arglwydd, rhoddwr bywyd,

sy'n deillio o'r Tad a'r Mab,

yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir,

ac a lefarodd trwy'r proffwydi.

Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig.

Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau.

A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw,

a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.

 

(Click here for some books in Welsh)